Welsh Translation
Main Banner
Left Side Panel:
Gyda chymorth gan y Conference on Jewish Material Claims against Germany
Gyda chefnogaeth Gweinidogaeth Gyllid Llywodraeth Ffederal yr Almaen
Mae pob daliwr canhwyllau yn anrhydeddu un neu fwy o’r bobl neu’r cymunedau canlynol o bobl Iddewig wnaeth oroesi’r Holocost:
Agnes Keleti; Anita Lasker-Wallfisch MBE; Anne Super; Bela Guttman; Edith Eger; Edith Jacobowitz; Erica Richardson; Esidor Stein; Esther Baranowitz; Esther Lloyd; Frank Bright MBE; Gad Beck, (a gafodd ei erlid oherwydd ei rywioldeb hefyd); Gert Jacobowitz; Hedwig Bercu; Helen Lewis MBE; Hendrik Lek; Henry Wuga MBE; Hilda Goldwag; Hyam Goldman, (gyrrwyd i hunanladdiad ym 1950); Ike Alterman; Jack Kagan; John Finkelstein; Karel Lek; Magnus Hirschfeld, (a gafodd ei erlid oherwydd ei rywioldeb hefyd); Naomi Blake; Naomi Kaplan; Peter Ney; Renee Bornstein BEM; Ruby Still; Sam Laskier; Syr Ben Helfgott; Szmul Jakub Goldberg; The North Devon Jewish Pioneer Corps; Hannah Much; Max Strietzel; Rudolf Jess.
Pobl Iddewig a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost:
Anne Frank; Auguste Spitz; Etty Hillesum; Franceska Mann; Hannah Szenes; Jania Kaswan; Judith Schwed; Manfred Lewin, (a gafodd ei erlid oherwydd ei rywioldeb hefyd); Marianne Grunfeld; Nathan Davidson; Philipp Manes; ‘Rosa’, ‘Mitzi’, ‘Dolfi’ a ‘Pauli’, (chwiorydd Sigmund Freud); Santes Teresa Benedicta o’r Groes, (Edith Stein yn wreiddiol); Sergio De Simone; Gwrthryfel Ghetto Warsaw a Mordecai Anielewicz; Therese Steiner a Victor Emanuel, (gyrrwyd i hunanladdiad ym 1944).
Dioddefwyr erledigaeth y Natsïaid o grwpiau eraill:
Albrecht Becker, goroesodd erledigaeth y Natsïaid o ddynion hoyw; Bjorn Egge CBE, milwr o Norwy wnaeth oroesi gwersylloedd crynhoi’r Natsïaid;
Pobl gyffredin gafodd eu herlid dan fyddin oresgynnol yr Almaen ar Ynys Guernsey; Franziska Mikus, goroesodd erledigaeth y Natsïaid o’r gymuned pobl fyddar; Helene Melanie Lebel, llofruddiwyd trwy erledigaeth y Natsïaid o bobl ag anabledd meddyliol; Johann Rukeli Trollmann, llofruddiwyd am fod yn Sinti; Ossi Stojka, llofruddiwyd am fod yn Roma; Otto Rosenberg, goroesodd erledigaeth y Natsïaid o’r gymuned Sinti;
Pierre Seel, goroesodd erledigaeth y Natsïaid o ddynion hoyw; St Maximilian Kolbe, llofruddiwyd am wrthwynebiad crefyddol; Y gymuned anabl; Y Gwersyll Teulu – llofruddiwyd am fod yn bobl Roma; Y gymuned hoyw; Cymunedau Roma a Sinti; Mudiad Rhosyn Gwyn Hans a Sophie Scholl, Christoph Probst, Alexander Schmorell, Willi Graff a’r Athro Kurt Huber, a lofruddiwyd am fod yn wrthwynebwyr gwleidyddol i’r Natsïaid;
Goroesodd Waldemar Nods erledigaeth y Natsïaid o’r gymuned Pobl Ddu.
Hefyd yn anrhydeddu: Arthur Tyler, a wasanaethodd gyda’r Oxfordshire Yeomanry wrth ryddhau Bergen-Belsen.
Central Panel
Anrhydeddu’r chwe miliwn o Iddewon a gafodd eu herlid a’u llofruddio yn yr Holocost, ac aelodau o gymunedau nad ydynt yn Iddewig a gafodd eu herlid gan y Natsïaid.
Mae ’80 Candles for 80 Years’ yn brosiect celfyddydol ac addysg ledled y wlad sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost, i nodi 80 mlynedd ers rhyddhau gwersyll crynhoi Auschwitz-Birkenau.
Mae pedwar ugain o gymunedau a sefydliadau ledled y DU wedi creu dalwyr canhwyllau unigryw ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost eleni, pob un wedi’i ysbrydoli gan hanes bywyd unigolyn a gafodd ei erlid neu ei lofruddio gan y Natsïaid.
Y canlyniad yw casgliad ysbrydoledig a hardd o weithiau celf sy’n cael eu harddangos mewn amryw lefydd ar hyd a lled y DU. Mae’r arddangosfa hon yn dwyn pob daliwr canhwyllau ynghyd i ffurfio mosaig o gannwyll sengl, sy’n symbol o fyfyrdod, coffau ac ymroddiad cyfunol pawb a gyfrannodd at y prosiect hwn.
Rhyddhau Auschwitz-Birkenau
Ar 27 Ionawr 1945, fe wnaeth lluoedd Sofietaidd ryddhau Auschwitz-Birkenau, gwersyll crynhoi a difa mwyaf y Natsïaid. Fe wnaeth hyn agor llygaid y byd i amodau erchyll y gwersyll a graddfa lawn difa systemig yr Iddewon gan y Natsïaid.
Wrth i luoedd y Cynghreiriaid nesáu, daethant ar draws gwersylloedd crynhoi lle llofruddiwyd Iddewon Ewrop fel rhan o’r ‘Ateb Terfynol’.
Daeth y rhyddhawyr o hyd i bentyrrau o gyrff heb eu claddu, goroeswyr newynog a gwersylloedd yn drwch o glefydau. Cafodd gwareiddiad ei ysgwyd i’r byw gan yr Holocost, ac mae’n atgof brawychus bod rhaid herio gwahaniaethu ac erledigaeth bob dydd.
Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost (HMDT) yw’r elusen a sefydlwyd ac a ariennir gan Lywodraeth y DU i hyrwyddo a chefnogi Diwrnod Cofio’r Holocost (HMD) yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r Holocost yn ganolog i Ddiwrnod Cofio’r Holocost, pan fyddwn ni’n cofio’r chwe
miliwn o Iddewon a gafodd eu llofruddio. Rydym hefyd yn coffáu’r miliynau mwy o bobl a lofruddiwyd trwy erledigaeth grwpiau eraill gan y Natsïaid a’r achosion mwy diweddar o hil-laddiad a gydnabyddir gan lywodraeth y DU, ac yn Darfur.
Yn 2000, helpodd y DU i sefydlu Diwrnod Cofio Rhyngwladol yr Holocost. Ers 2001, mae’n cael ei nodi yn y DU bob blwyddyn ar 27 Ionawr gyda seremoni genedlaethol, miloedd o ddigwyddiadau lleol a miliynau o bobl yn cymryd rhan trwy foment genedlaethol ‘Goleuo’r Tywyllwch’. Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn dod â phobl at ei gilydd i anrhydeddu goroeswyr, cofio’r rhai a ddioddefodd, a herio rhagfarn yn seiliedig ar nodweddion fel ffydd neu ethnigrwydd. Mae Diwrnod Cofio’r Holocost ar gyfer pawb – er mwyn dysgu gan y gorffennol a gweithio tuag at ddyfodol heb erledigaeth.
Right Hand Side Panel
Gyda chymorth Conference on Jewish Material Claims against Germany
Gyda chefnogaeth Gweinidogaeth Gyllid Llywodraeth Ffederal yr Almaen
- Pwy fu’n cymryd rhan
- Abbey Grange Sanctuary Welcomers Group,
- Abbey Grange C of E Academy
- All Saints C of E Academy
- Archifau Ynys Môn ac Oriel Môn
- Arena Academy
- Belchamp St. Paul C of E Primary School
- Bishopbriggs Academy
- Bradfields Academy
- Brighton and Hove Progressive Synagogue
- Bury Council and Association of Jewish Refugees
- Canon Burrows Church of England Primary School
- City Academy Bristol
- City of London School for Girls
- Clanrye Group of disabled young people
- Colchester County High School for Girls
- Devon and Cornwall Police
- Downpatrick Presbyterian Women Connect
- Dunottar School
- Freud Museum London
- Garnethill Multicultural Centre
- Gosforth East Middle School
- Haringey Libraries
- Haslemere Young People Exhibition Team
- Haslemere Educational Museum
- Hawes Primary School
- Grŵp GRT Carchar EF y Berwyn
- HM Prison Humber and GRAFT Studio
- HM Prison Parc
- HM Prison Stoke Heath
- Ilfracombe Museum
- Jersey Heritage
- Kielder Primary School and Community
- Madeley School
- Magdalen College School
- Magherafelt and Rural Learning Partnership, Shared Education Group
- Morecambe Library
- Museum of Oxford and Cheney School
- Northern Ireland War Memorial Museum
- Northfield Academy
- Northgate High School
- Oakgrove Integrated College
- Oakmoor School
- Oakwood Junior School
- Oldmachar Academy
- Plymouth College
- Rockwood Academy
- Roma Support Hub Belfast
- Saint Ninian’s High School
- Shalom Art, Jewish Care
- Sheffield City Council
- Sheffield Voices, Disability Sheffield
- Soldiers of Oxfordshire Museum
- Somerset Interfaith and Belief Network
- Space 4 and Mary Watson, Culture House and Sunderland Libraries
- St Anne’s Catholic Primary School
- St Edmund Arrowsmith Catholic High
- School and Heart Communities
- St Helen’s Library Service
- St John Fisher Catholic College
- St Nicholas Catholic High School
- St Oswald’s Catholic Primary School
- St Peter’s C of E Academy
- The Damara School
- The Grammar School at Leeds
- The Ladies’ College – Guernsey
- The Priory Pembroke Academy
- Together! 2012
- Union of Jewish Students
- Warminster School
- Wellington School
Baner 01
Anrhydeddu Esidor Stein a’i wraig Esther Baranowitz – a’r tad a’r mab Hendrik a Karel Lek, a lofruddiwyd yn yr Holocost am fod yn Iddewon.
Archifau Ynys Môn ac Oriel Môn
Disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Amlwch ydyn ni. Cafodd ein daliwr canhwyllau ei ysbrydoli gan y teulu Stein, Iddewon Rwsia a ymgartrefodd yn Amlwch ym 1919, a Karel Lek, ffoadur ac arlunydd o Wlad Belg wnaeth ffoi o Antwerpen i ymgartrefu ym Miwmares. Mae gan Oriel Môn sawl darn o waith gan Karel Lek. Mae ein daliwr canhwyllau yn anrhydeddu profiadau bywyd y teulu Stein gan ddefnyddio dyfyniadau o’u dogfennau yn Archifau Ynys Môn. Mae’n cynnwys delweddau o gasgliad Stein a chelfwaith Lek, gyda replicas o ddogfennau a dyluniadau gwreiddiol yn arddull Lek.
Buom yn archwilio’r casgliad a hanes y teulu Stein mewn gweithdy. Fe wnaeth oedolion ag anghenion dysgu gydweithio â ni yn Oriel Môn hefyd i greu dyluniadau wedi’u hysbrydoli gan waith celf Lek.
Dyma beth oedd gennym i’w ddweud:
“Dwi wedi mwynhau bob dim heddiw, ond mi nes i hoffi gwneud y lantern”.
“Dwi wedi mwynhau gwneud gwaith Karel Lek”.
Ein Hymrwymiad i Weithredu yw bod yn groesawgar ac yn barchus i bobl o bob cefndir.
I ddysgu mwy a chyfrannu
#80Candles | 80candles.com
I ddysgu mwy a chyfrannu
#80Cannwyll
Anrhydeddu Jania Kaswan, a lofruddiwyd yn y Holocost am fod yn Iddewig
Abbey Grange Sanctuary Welcomers, Abbey Grange C of E Academy
Cafodd ein myfyrwyr Blwyddyn 8 eu hysbrydoli gan ymweliad â’r ysgol gan fenyw Iddewig y mae ei merch wedi’i gefeillio â dioddefwr yr Holocost, Jania Kaswan, fel rhan o Raglen Gefeillio Bat Mitzvah. Mae Seren Dafydd ar un ochr o’n daliwr canhwyllau, sy’n symbol o ffydd a hunaniaeth Iddewig Jania, ac yn cyfeirio hefyd at y seren felen y cafodd Iddewon eu gorfodi i’w gwisgo yn ystod yr Holocost, cyn eu herledigaeth systematig, eu halltudio, a’u difodiant. Mae saith llinell yr enfys yn cynrychioli pob aelod o deulu Jania a fu farw. Dewison ni’r lliw glas i symboleiddio heddwch a gobaith, tra bod y deuddeg lelog gwyn yn symbol o ddiniweidrwydd ieuenctid. Mae’r pum llygad y dydd ar y brig yn arwydd o ddiniweidrwydd plentyndod. Fe wnaethon ni ysgrifennu enw Jania yn Hebraeg i anrhydeddu’r cof amdani ymhellach. Trwy’r daliwr canhwyllau hwn, ein nod yw dangos trasiedi bywyd ifanc Jania, a gymerwyd yn rhy fuan oherwydd profiadau na ddylai neb fyth eu hwynebu.
Myfyrdodau gan Yee Lam, Moyinoluwa, a Charlotte:
“Dwi’n teimlo’n lwcus i fyw mewn man lle gallwch chi gredu a dweud beth rydych chi ei eisiau, heb gael eich cosbi”.
“Dysgais fod pobl wedi marw’n ifanc oherwydd yr Holocost”.
Ein Hymrwymiad i Weithredu yw ymchwilio i erledigaeth yn y DU a chanfod ffyrdd i helpu. Rydyn ni’n casglu dillad i’r rhai sy’n chwilio am noddfa yn Leeds a’u dosbarthu drwy ein partneriaid City of Sanctuary.
Baner 02
Mae’n anrhydeddu Anne Frank, Waldemar Nods, Helene Lebar, Ossi Stojka, Manfred Lewin a Santes Teresa Benedicta y Groes, i gyd wedi’u herlid gan y Natsïaid
Bradfields Academy
Rydyn ni’n grŵp o ddau ddosbarth hanes 6ed dosbarth o ysgol AAA, sy’n cefnogi myfyrwyr â galluoedd amrywiol. Dewison ni chwe stori bywyd i gynrychioli’r prif grwpiau a dargedwyd gan y Natsïaid yn eu hymdrech am “gymdeithas berffaith”.
Mae ein daliwr canhwyllau wedi’i seilio ar Seren Dafydd, gyda chwe ochr, pob un â llun o un o’r unigolion buon ni’n ymchwilio iddyn nhw. Pan fydd wedi’i chynnau, mae’r gannwyll yn goleuo’r holl wynebau gan adlewyrchu pwysigrwydd cofio. Tra bydd yr Holocost yn cael ei gofio’n bennaf am lofruddiaeth chwe miliwn o Iddewon, roeddem eisiau anrhydeddu grwpiau eraill a dargedwyd yn ystod y cyfnod hwn hefyd.
Rhai o sylwadau’r myfyrwyr:
“Rydyn ni’n cofio Anne Frank, merch Iddewig a gafodd ei thargedu gan y Natsïaid ac a fu farw mewn gwersyll yn 16 oed. Rydyn ni’n cofio fel nad yw’r profiad hwn yn digwydd eto”.
“Rydyn ni’n cofio am Waldemar Nods, dyn du a ddioddefodd wahaniaethu yn ei erbyn, ac roedden i am i eraill ddeall ei bod hi’n iawn bod yn wahanol”.
Ein Hymrwymiad i Weithredu yw rhannu ein canhwyllau gyda’n hysgol AAA a’r gymuned ehangach, gan nodi Diwrnod Cofio’r Holocost eleni.
Anrhydeddu Gert ac Edith Jacobowitz, a oroesodd erledigaeth y Natsïaid am fod yn Iddewon
Downpatrick Presbyterian Women Connect
Grŵp o Eglwys Bresbyteraidd Downpatrick ydyn ni; ac ar gyfer ein prosiect, fe wnaethom ni ganolbwyntio ar Gert ac Edith Jacobowitz, brawd a chwaer a oedd yn rhan o’r Kindertransport ym 1939. Fe wnaethon nhw ddianc rhag erledigaeth y Natsïaid a chael lloches ar fferm yn Millisle, Swydd Down, Gogledd Iwerddon lle cadwodd Edith ddyddiadur o’i phrofiadau. Roedd yn fenter amaethyddol, ond yn fwy na hynny, yn lloches a hafan ddiogel rhwng 1939 a 1948, i gannoedd o Iddewon ifanc o Ewrop feddianedig.
Mae ein daliwr canhwyllau ar ffurf cwch, yn symbol o’u taith i Ogledd Iwerddon. Mae wedi’i addurno â cherrig o draeth Millisle, sy’n cynrychioli’r traddodiad Iddewig o osod cerrig ar feddau. Mae’r darn yn cynnwys dyfyniadau o ddyddiadur Edith hefyd, ynghyd â darluniau o’r fferm, toriadau papur newydd o’r 1930au, a chofnod llyfr cofrestru yn dangos Gert yn mynychu’r ysgol.
Fe wnaethon ni ychwanegu pedwar cês dillad bach, pob un gyda dyfyniad o ddyddiadur Edith.
“Roedd gweld sut mae dyddiadur Edith wedi effeithio ar y merched yn brofiad teimladwy dros ben”.
“Mae’n anhygoel sut oedd fferm fach yn Swydd Down wedi cael cymaint o effaith ar gymaint o fywydau”.
“Mae profiad Gert ac Edith yn rhyfeddol. Fel mam i bump, dwi’n gallu deall yr arswyd a’r galar yr aeth eu rhieni drwyddo.
Er gwaethaf erchylltra’r cyfnod, roedd yna bobl a oedd yn helpu teuluoedd fel y rhain. Mae’n wirioneddol anhygoel”.
Ein Hymrwymiad i Weithredu oedd ymweld â’r fferm yn Millisle drosom ein hunain a thalu teyrnged i gof Edith a Gert a dioddefwyr eraill yr Holocost. Fe wnaethon ni greu tudalen goffa iddyn nhw ar wefan HMDT hefyd.
Baner 03
Anrhydeddu aelodau o’r cymunedau Roma a Sinti a gafodd eu herlid gan y Natsïaid am berthyn i’r cymunedau hyn.
Carchar EF y Berwyn – Grŵp Sipsiwn, Roma a Theithwyr (GRT)
Daethom â’r grŵp GRT a’r gweithdai weldio a gwaith saer at ei gilydd yng Ngharchar EF y Berwyn i gydweithio ar y prosiect hwn. Fe wnaeth grŵp, a oedd yn cynnwys carcharorion na fyddent yn gweithio gyda’i gilydd fel arfer, gydweithio ar gynllunio daliwr canhwyllau gyda chymorth staff, gan gofleidio sgiliau treftadaeth trwy waith gof.
‘Gwersyll Teulu’ Natsïaidd yn Auschwitz, lle carcharwyd aelodau o’r cymunedau Roma a Sinti, oedd canolbwynt ein gwaith. Roedd gweithdai dylunio yn archwilio gwerthoedd allweddol y gymuned GRT, effaith y Natsïaid ar eu cymuned a themâu fel adfyd a chadernid. Helpodd y broses hon i chwalu camsyniadau, gan feithrin parch a dealltwriaeth i’r ddwy ochr.
Mae’r daliwr canhwyllau, dyluniad crwn 60cm, wedi’i wneud o bren, metel dalen a bar haearn a doddwyd yn yr efail. Dewiswyd deunyddiau i adlewyrchu crefftau traddodiadol. Mae’r dyluniad yn canolbwyntio ar themâu Cofio, Teulu, Ffydd, Teyrngarwch a Rhyddid. Mae’r olwyn yn cynrychioli rhyddid symudol y gymuned Teithwyr, tra bod y diorama yn cyfleu’r uned deuluol, sy’n symbol o ymddiriedaeth a pharhad.
Bu’r cyfranogwyr yn dysgu sgiliau newydd, gan gynnwys gwaith metel, gan werthfawrogi’r cyfle i archwilio eu hanes a’u treftadaeth a rhannu straeon. Dywedodd un:
“Roedd hi’n braf dysgu sgiliau newydd ar gyfer fy hunangyflogaeth yn y dyfodol. Fe wnes i fwynhau dysgu am yr Holocost hefyd”. Meddai un arall, “Dyma un o’r pethau gorau dwi wedi’i wneud yn y carchar erioed. Llwyddodd y prosiect i feithrin ymdeimlad o rymuso, cydweithio a chyfeillgarwch oes”.
Ein Hymrwymiad i Weithredu yw plannu a gofalu am ardd goffa fyw yng Ngharchar EF y Berwyn.
I ddysgu mwy a chyfrannu
#80Cannwyll | 80candles.com
Anrhydeddu Naomi Blake, a oroesodd erledigaeth y Natsïaid am fod yn Iddewig
Haringey Libraries
Rydyn ni’n darparu llyfrgelloedd cyhoeddus a gweithgareddau ledled Haringey, Gogledd Llundain. Er mwyn coffáu Naomi Blake, Goroeswr yr Holocost a ddaeth yn gerflunydd o fri rhyngwladol, fe wnaethom greu daliwr canhwyllau yn cynnwys plât gyda chollage o ddelweddau o’i bywyd. Collodd Naomi y rhan fwyaf o’i theulu yn ystod yr Holocost ond fe lwyddodd hi i oroesi, a gan aros yn driw i’w chredoau. Daeth yn adnabyddus maes o law am y cerfluniau sydd i’w gweld yn Sgwâr Fitzroy, Eglwys St. Ethelberga, Prifysgol Caerlŷr a Chanolfan yr Holocost, ymhlith eraill.
Mae’r darn hwn wedi’i ysbrydoli gan ei cherflun Memorial to the Holocaust. Er gwaetha’r trawma a ddioddefodd Naomi, cafodd gysur mewn celf, yn aml yn adlewyrchu themâu teulu, amddiffyniad a gobaith. Trwy ddysgu am ei bywyd, cawsom ddealltwriaeth newydd o’r Holocost – ac mae ei goleuni a’i hoptimistiaeth yn parhau i ysbrydoli.
Cyd-destun y dyfyniad ar y daliwr canhwyllau: That’s your family up there in the smoke. “Daw’r dyfyniad o lyfr a ysgrifennais am fy mam. Yn ôl mam, dyna’r ateb a gafodd hi gan y carcharorion eraill pan gyrhaeddodd Auschwitz a holi beth oedd y mwg. Ar y dechrau, roedd hi’n meddwl eu bod nhw’n gwbl wallgof” – Anita Peleg, merch Naomi Blake.
Mae dysgu am Naomi Blake a’r Holocost wedi bod yn brofiad ysbrydoledig ond erchyll hefyd. Ein Hymrwymiad i Weithredu yw efelychu goleuni Naomi trwy fod yn groesawgar a dangos parch tuag at bobl o bob cefndir yn ein gweithleoedd a’n cartrefi.
Anrhydeddu aelodau o’r cymunedau Roma a Sinti a gafodd eu herlid gan y Natsïaid am eu haelodaeth o’r cymunedau hyn.
Carchar EF y Berwyn – Grŵp Sipsiwn, Roma a Theithwyr (GRT)
Daethom â’r grŵp GRT a’r gweithdai weldio a gwaith saer at ei gilydd yng Ngharchar EF y Berwyn i gydweithio ar y prosiect hwn. Roedd y grŵp yn cynnwys carcharorion na fyddai’n gweithio gyda’i gilydd fel arfer, a buon nhw’n cydweithio ar gynllunio daliwr canhwyllau gyda chymorth staff, gan gofleidio sgiliau treftadaeth trwy wneud gwaith gof.
Y ffocws oedd y ‘Gwersyll Teulu’ Natsïaidd yn Auschwitz, lle carcharwyd aelodau o’r cymunedau Roma a Sinti. Roedd gweithdai dylunio yn archwilio gwerthoedd allweddol y gymuned GRT, effaith y Natsïaid ar eu cymuned a themâu fel adfyd a chadernid. Fe wnaeth y broses hon helpu i chwalu camsyniadau, gan feithrin parch a dealltwriaeth i’r ddwy ochr.
Mae’r daliwr canhwyllau, dyluniad crwn 60cm, wedi’i wneud o bren, metel dalen a bar haearn a doddwyd yn yr efail. Dewiswyd deunyddiau i adlewyrchu crefftau traddodiadol. Mae’r dyluniad yn canolbwyntio ar themâu Cofio, Teulu, Ffydd, Teyrngarwch a Rhyddid. Mae’r olwyn yn cynrychioli rhyddid i’r gymuned Teithwyr, tra bod y diorama yn darlunio teulu sy’n symbol o ymddiriedaeth a pharhad.
Bu’r carcharorion yn dysgu sgiliau newydd, gan gynnwys gwaith metel, gan werthfawrogi’r cyfle i archwilio eu hanes a’u treftadaeth a rhannu straeon. Dywedodd un:
“Roedd hi’n braf dysgu sgiliau newydd ar gyfer fy hunangyflogaeth yn y dyfodol. Fe wnes i fwynhau dysgu am yr Holocost hefyd”. Meddai un arall, “Dyma un o’r pethau gorau dwi wedi’i wneud yn y carchar erioed. Fe wnaeth y prosiect feithrin ymdeimlad o rymuso, cydweithio a chyfeillgarwch oes”.
Ein Hymrwymiad i Weithredu yw plannu a gofalu am ardd goffa fyw yng Ngharchar EF y Berwyn.
I ddysgu mwy a chyfrannu
#80Cannwyll | 80candles.com
Baner 04
Anrhydeddu wyth o drigolion Jersey a lofruddiwyd gan y Natsïaid am fod yn Iddewon yn ystod meddiannaeth y Natsïaid o Ynysoedd y Sianel
Jersey Heritage
Mae’r daliwr canhwyllau hwn yn coffáu wyth o drigolion Iddewig Jersey a ddioddefodd erledigaeth y Natsïaid yn ystod meddiannaeth yr Almaenwyr o Ynysoedd y Sianel rhwng 1940 a 1945. Ynysoedd y Sianel oedd yr unig diriogaeth Brydeinig a feddiannwyd gan Natsïaid yr Almaen, ac roedd yr Iddewon a arhosodd yno yn wynebu’r un dynged ag eraill ledled Ewrop.
Daeth Alderney yn safle ar gyfer gwersylloedd caethlafur y Natsïaid hefyd lle bu farw llawer o Iddewon naill ai trwy eu dienyddio neu oherwydd yr amodau llym.
Rydyn ni’n cofio am: Nathan Davidson, Hedwig Bercu, Victor Emanuel, John Finkelstein, Esther Lloyd, Erica Richardson, Ruby Sill a Hyam Goldman. Yn 2024, fe wnaeth Jersey Heritage osod 20 o stolpersteine (meini tramgwydd) ar draws yr ynys, wyth ohonynt yn anrhydeddu’r trigolion Iddewig wnaeth ddioddef erchylltra’r Natsïaid.
Defnyddiodd Deon Jersey ein daliwr canhwyllau yn seremoni Diwrnod Cofio’r Holocost yr ynys eleni a bydd yn parhau i wneud hynny mewn digwyddiadau yn y dyfodol. Dyma argraffiadau Carmella o’r prosiect:
“Rhoddodd y prosiect hwn gyfle i mi fyfyrio ar brofiadau trigolion Iddewig Jersey dan feddiannaeth yr Almaenwyr ac i ddal gafael ar obaith a heddwch i’r rhai sy’n wynebu erledigaeth heddiw”.
Mae’r prosiect stolpersteine, a grëwyd gan yr artist Almaenig Gunter Demnig ym 1992, yn gosod cerrig coffa yng nghartref neu weithle hysbys olaf dioddefwyr erchylltra’r Natsïaidd.
Ein Hymrwymiad i Weithredu yw cynnal arddangosfa o Lyfrgell Holocost Wiener yn 2025, gyda phrif siaradwr gwadd o’r llyfrgell.
I ddysgu mwy a chyfrannu
#80Cannwyll | 80candles.com
Anrhydeddu’r Pioneer Corps – Hannah Musch, Max Strietzel a Rudolf Jess a gafodd eu herlid gan y Natsïaid am fod yn Iddewon
Ilfracombe Museum
Rydyn ni’n dîm bach o staff a gwirfoddolwyr sy’n ymroi i anrhydeddu’r ffoaduriaid
Iddewig oedd wedi’u dadleoli yn ystod yr Ail Ryfel Byd a gafodd loches yma yn Ilfracombe. Er gwaethaf eu caledi, fe wnaethon nhw ddefnyddio eu doniau i ddod â llawenydd i eraill, gan ffurfio’r Pioneer Corps, criw adloniant o ffoaduriaid Iddewig a sefydlwyd yn Ilfracombe yn ystod y rhyfel.
Mae’r tri ffigwr yn y daliwr yn anrhydeddu Hanna Musch, prima ballerina o Awstria wnaeth ffoi rhag rheolaeth y Natsïaid; Max Strietzel, cyn-feiolinydd gyda Symffoni Fienna; a Rudolf Jess, perfformiwr blaenllaw a thenor proffesiynol. Mae’r ffigurau hyn yn cynrychioli doniau bywiog y Pioneer Corps.
Mae silwét o’r ffigurau yn erbyn ffotograff o Theatr Alexandra (y Garrison Theatre, gynt), lle roedden nhw’n perfformio i filwyr a phobl leol. Maen nhw’n cynnal glôb ac yn dal cannwyll sy’n symboleiddio’r llawenydd a’r golau a ddaethon nhw. Mae’r darn yn gorffwys ar ddrych crwn gyda dwy gannwyll ychwanegol, sy’n symbol o’n hystyriaeth o gyfraniadau’r ffoaduriaid Iddewig. Wedi’i arysgrifio ar y drych mae: Creativity brings joy in the face of adversity, gan adlewyrchu ysbryd y prosiect hwn a’r doniau amrywiol a rannwyd mewn dyddiau du.
Dywedodd Ruth, ein Swyddog Ymgysylltu: “Dwi’n ffan mawr ers dysgu am Hanna Musch. Fe wnaeth nid yn unig yn swyno cynulleidfaoedd gyda’i dawnsio ond hefyd ysbrydoli ac addysgu pobl i ddawnsio. Mae ei myfyrwyr yn ei chofio fel athrawes feddylgar, ofalgar a dawnswraig hudolus”.
Mae’r daliwr canhwyllau hwn yn dathlu cadernid a chreadigrwydd yr unigolion hyn a’r llawenydd ddaethon nhw i bobl Ilfracombe yn ystod cyfnod o galedi mawr. Mae wedi ysbrydoli ein Hymrwymiad i Weithredu i fod yn groesawgar a dangos parch tuag at rai y gallem eu hystyried yn wahanol i ni ein hunain.
Baner 05
Anrhydeddu Gad Beck, a gafodd ei erlid gan y Natsïaid am fod yn ddyn hoyw Iddewig
Madeley School
Cafodd ein grŵp ei ysbrydoli gan brofiad bywyd Gad Beck, gan fod llawer ohonom yn gallu uniaethu â’i brofiadau. Roedd Gad yn ddyn hoyw ac Iddewig, a llwyddodd i oroesi rheolaeth y Natsïaid ym Merlin, a gwrthsefyll erledigaeth. Ym 1938, ar ôl gweld y siop lle’r oedd yn gweithio yn cael ei hysbeilio, newidiodd ei enw o Gerhard i Gad er mwyn tanlinellu ei hunaniaeth Iddewig. Roedd Gad mewn perthynas â Manfred Lewin a chawsom ein cyffwrdd i’r byw gan ei ymdrechion i achub Manfred a lofruddiwyd yn ddiweddarach yn Auschwitz.
Mae ein cannwyll yn adlewyrchu rhywioldeb, crefydd a gyrfa Gad – agweddau allweddol ar ei hunaniaeth a dargedwyd gan y Natsïaid. Fe wnaethon ni ddefnyddio cysyniad cyfraith Iddewig o chazakah, lle mae gweithred sy’n cael ei chyflawni deirgwaith yn dod yn barhaol, fel symbol o waddol parhaol Gad.
Mae ein tîm trawsgwricwlaidd, sy’n cynnwys myfyrwyr hanes, celf a chrefydd, wedi ymrwymo i gofio’r gorffennol ac anrhydeddu’r rhai a dawelwyd yn ystod yr Holocost. Mae canolbwyntio ar straeon bywyd unigol yn gwneud i ni uniaethu mwy â’r drasiedi, gan fod ffigyrau mawr fel chwe miliwn yn gallu llethu rhywun.
Cyfrannodd aelodau o’n Clwb SPECTRUM (LHDTCIA+) at y dyluniad. Ein Hymrwymiad i Weithredu yw parhau â brwydr Gad dros ddyfodol gwell, gyda’n gilydd, wrth gofio am ei brofiadau.
I ddysgu mwy a chyfrannu
#80Cannwyll | 80candles.com
Anrhydeddu Sergio De Simone, a lofruddiwyd yn yr Holocost am fod yn Iddewig
Kielder Primary School and Community
Mae ein grŵp yn cynnwys plant o Ysgol Gynradd Kielder, ysgol fach mewn rhan anghysbell o Loegr, ynghyd ag aelodau o’r gymuned ehangach. Dywedodd un disgybl Blwyddyn 5:
“Dwi’n teimlo’n drist am na chafodd plant fel fi ddigon o ofal. Dw i’n teimlo mor ffodus gyda’r hyn sydd gen i”.
Myfyriodd athro:
“Bu’n gyfle i oedi a myfyrio ar y gorffennol a gosod nodau i greu dyfodol gwell”.
Dewison ni anrhydeddu bywyd Sergio De Simone, bachgen ifanc Iddewig o’r Eidal a gafodd ei alltudio, ei arteithio a’i lofruddio gan y Natsïaid. Fe wnaeth ei brofiad daro tant amlwg gyda’r plant. Mae ein daliwr canhwyllau yn adlewyrchu’r grwpiau ac unigolion amrywiol wnaeth ddioddef erledigaeth y Natsïaid, gan anrhydeddu’r cof amdano ac eraill hefyd.
Ein Hymrwymiad i Weithredu yw annog pawb i ddysgu mwy fel ysgol am yr Holocost a’i ganlyniadau.
Baner 06
Anrhydeddu Anita Lasker-Wallfisch a lwyddodd i oroesi erledigaeth y Natsïaid am fod yn Iddewes
Magherafelt and Rural Learning Partnership, Shared Education Group
Rydyn ni’n rhan o’r garfan addysg ar y cyd yn Magherafelt and Rural Learning Partnership (MRLP), sy’n cysylltu naw ysgol ôl-gynradd yng Ngogledd Iwerddon. Mae ein cydweithrediad yn pontio’r gagendor rhwng cymunedau Catholig a Phrotestannaidd, gan ddefnyddio gweithgareddau addysgol ar y cyd i feithrin cyd-ddealltwriaeth.
Mae profiad Anita Lasker-Wallfisch wedi cael effaith ddofn arnom. Yn oroeswr yr Holocost a sielydd dawnus, aeth drwy uffern Auschwitz, lle’r oedd ei cherddoriaeth yn achubiaeth iddi. Mae ei chadernid ac ymroddiad i rannu ei phrofiadau yn sicrhau bod gwersi hanes yn para, gan ein hannog i ganfod cryfder mewn adfyd a defnyddio ein doniau i greu newid cadarnhaol.
Mae ein dyluniad canhwyllau yn anrhydeddu 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz.
Wedi’i siapio fel octagon, mae’r gwaelod crwn yn cynnwys y dyfyniad, As long as we can breathe, we can hope. Mae elfennau cerddorol, gan gynnwys y soddgrwth a nodiadau cerddorol, wedi’u hymgorffori, gyda phaneli sy’n adlewyrchu eiliadau allweddol ym mywyd Anita – Kristallnacht, Seren Dewi a’r gwersyll crynhoi. Mae’r daliwr canhwyllau pren yn 300mm o uchder gyda gwaelod 300mm. Fel y dywedodd un myfyriwr:
“Gwnaeth y prosiect hwn i mi sylweddoli nad oedd yr Holocost mor bell yn ôl ag yr oeddem ni wedi meddwl. Roedd hefyd mor ddiddorol dysgu am straeon unigol a rhoi wynebau i’r ffigyrau”.
Fel rhan o’n Hymrwymiad i Weithredu, byddwn yn trefnu gwasanaethau ar draws ysgolion MRLP ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost. Bydd y daliwr canhwyllau yn cael ei arddangos ym mhob ysgol gydol yr wythnos, gan hybu’r ymdeimlad o undod, cofio a dealltwriaeth ddyfnach o’r Holocost.
Anrhydeddu Helen Lewis a oroesodd erledigaeth y Natsïaid am fod yn Iddewig
Northern Ireland War Memorial Museum
Mae Cofeb Ryfel Gogledd Iwerddon yn Belfast, sy’n adrodd profiad a rôl Gogledd Iwerddon yn yr Ail Ryfel Byd, yn falch o fod wedi meithrin partneriaeth gyda’r artist lleol Leanne McClean ac oriel Engine Room i greu’r daliwr canhwyllau hwn, wedi’i ysbrydoli gan fywyd Helen Lewis.
Ganed Helen yn Bohemia (y Weriniaeth Tsiec heddiw) ym 1916, a goroesodd Auschwitz
a’r Holocost; ond fe gafodd ei mam a’i gŵr cyntaf eu lladd. Ar ôl y rhyfel, symudodd i lle daeth yn athrawes dawns a choreograffydd enwog, gan sefydlu grŵp Belfast Modern Dance Group ym 1962. Ysgrifennodd Helen hunangofiant, A Time to Speak, a gyhoeddwyd ym 1992, a dyfarnwyd yr MBE iddi yn 2001 am ei chyfraniadau i ddawns gyfoes.
Er gwaethaf ei gorffennol trawmatig, gwrthododd Helen i hynny ei diffinio. Ymrwymodd i fyd y ddawns, gan gredu yn ei bŵer unigryw i uno pobl. Cyfeiriodd yn aml at y profiad o adael Auschwitz fel “rhodd o obaith”.
Mae’r daliwr canhwyllau hwn, a grëwyd gan Leanne McClean, yn symbol o bwysau hanes a gobaith parhaol gwaddol Helen. Mae’n deyrnged i’r cof amdani a’i chyfraniad at ddawns fodern yng Ngogledd Iwerddon. Bu farw Helen yn 93 oed ym mis Rhagfyr 2009, gan adael effaith barhaol ar fywyd diwylliannol Béal Feirste.
Ein Hymrwymiad i Weithredu yw parhau i goffáu straeon bywyd a gwaith pobl fel Helen fel y gall cenedlaethau’r dyfodol wybod eu hetifeddiaeth.
Anrhydeddu Anita Lasker-Wallfisch, wnaeth oroesi erledigaeth y Natsïaid am fod yn Iddewes
Magherafelt and Rural Learning Partnership, Shared Education Group
Rydyn ni’n rhan o’r garfan addysg ar y cyd yn Magherafelt a Gwledig (MRLP), sy’n cysylltu naw ysgol ôl-gynradd yng Ngogledd Iwerddon. Mae ein cydweithrediad yn pontio’r bwlch rhwng cymunedau Catholig a Phrotestannaidd gan ddefnyddio gweithgareddau addysgol ar y cyd i feithrin cyd-ddealltwriaeth.
Mae profiad Anita Lasker-Wallfisch wedi cael effaith ddofn arnom. Goroeswr yr Holocost a sielydd dawnus, aeth drwy uffern Auschwitz, lle’r oedd ei cherddoriaeth yn achubiaeth iddi. Mae ei chadernid a’i hymroddiad i rannu ei phrofiadau yn sicrhau bod gwersi hanes yn para, gan ein hannog i ganfod cryfder mewn adfyd a defnyddio ein doniau i greu newid cadarnhaol.
Mae ein dyluniad canhwyllau yn anrhydeddu 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz.
Wedi’i siapio fel octagon, mae’r gwaelod crwn yn cynnwys y dyfyniad, As long as we can breathe, we can hope. Mae elfennau cerddorol, gan gynnwys y soddgrwth a nodiadau cerddorol, wedi’u hymgorffori, gyda phaneli sy’n adlewyrchu eiliadau allweddol ym mywyd Anita – Kristallnacht, Seren Dewi a’r gwersyll crynhoi. Mae’r daliwr canhwyllau pren yn 300mm o uchder gyda 300mm gwaelod 300mm. Fel y dywedodd un myfyriwr:
“Gwnaeth y prosiect hwn i mi sylweddoli nad oedd yr Holocost mor bell yn ôl ag yr oeddem ni
wedi meddwl. Roedd hefyd mor ddiddorol dysgu am straeon unigol a rhoi wynebau i’r ffigyrau”.
Fel rhan o’n Hymrwymiad i Weithredu, byddwn yn trefnu gwasanaethau ar draws ysgolion MRLP ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost. Bydd daliwr canhwyllau yn cael ei arddangos ym mhob ysgol gydol yr wythnos, gan hyrwyddo undod, cofio a dealltwriaeth ddyfnach o’r Holocost.
I ddysgu mwy a chyfrannu
#80Cannwyll | 80candles.com
Baner 07
Anrhydeddu Frank Bright MBE, wnaeth ffoi rhag erledigaeth y Natsïaid am fod yn Iddewig
Northgate High School
Rydyn ni’n griw o fyfyrwyr Blwyddyn 9 Northgate High School; fe wnaethon ni greu’r daliwr canhwyllau hwn i godi ymwybyddiaeth o’r Holocost a throseddau casineb heddiw.
Ein nod yw cefnogi grwpiau cymunedol sy’n siarad dros rai sy’n dioddef gwahaniaethu heddiw.
Dewison ni anrhydeddu Frank Bright, goroeswr yr Holocost a ymwelodd â’n hysgol yn rheolaidd rhwng 2012 a 2022. Cafodd ei ymweliadau effaith ddofn arnom ni, gan ein helpu i ddeall erchyllterau’r Holocost yn well, a’n cyfrifoldeb i sefyll yn erbyn gwahaniaethu. Yn anffodus, bu farw Frank yn 2023, ond trwy’r prosiect hwn, rydyn ni’n anrhydeddu ei etifeddiaeth, sy’n coffáu’r gorffennol a’r presennol.
Mae’r daliwr canhwyllau yn cynnwys enwau cyd-ddisgyblion Frank o Prague, llawer ohonyn nhw wedi’u llofruddio yn Auschwitz, yn ogystal ag enwau ei rieni a laddwyd yno hefyd. Mae’r gofeb hon nid yn unig yn deyrnged i’r cof amdanynt ond hefyd yn alwad i weithredu, gan ein hannog i sefyll yn erbyn gwahaniaethu heddiw.
Wrth i ni weithio ar y prosiect hwn, fe wnaethom fagu hyder a dealltwriaeth drylwyr o bwysigrwydd codi llais. Dywedodd un ohonom:
“Mae hyn wedi gwneud i mi weld y gallaf helpu eraill a sefyll drostyn nhw”.
Meddai un arall:
“Rhaid i ni beidio byth ag anghofio beth ddigwyddodd i gyd-ddisgyblion Frank. Mae angen i ni gadw’r cof amdanynt yn fyw”.
Fe wnaethom gyflwyno ein daliwr canhwyllau ym Mhrifysgol Suffolk ar 27 Ionawr, 2025, fel rhan o Ddiwrnod Cofio’r Holocost yn Ipswich. Ein Hymrwymiad i Weithredu yw dal ati i siarad yn erbyn casineb a chefnogi’r rhai heb lais.
Anrhydeddu Etty Hillesum a Hannah Szenes, a laddwyd gan y Natsïaid am fod yn Iddewon
Cyngor Dinas Sheffield
Daeth y grŵp ymgysylltu lleol, IGNITE Imaginations, â chyfranwyr o gefndiroedd amrywiol ynghyd, gan gynnwys Seven Hills Reform Synagogue a’r Muslim Dialogue Society. Mae’r daliwr canhwyllau, wedi’i ysbrydoli gan Etty Hillesum a Hannah Szenes, yn symbol o boen y gorffennol a gobaith am ddyfodol mwy disglair, gan anrhydeddu eu dewrder yn wyneb gormes y Natsïaid.
Mae’r dyluniad yn cynnwys dwylo sy’n estyn am heddwch, coeden sy’n cynrychioli twf newydd a deunyddiau fel pren, gwifren a chopr – sy’n symbol o ffiniau ac undod. Mae’r dwylo a’r goeden yn anwesu’r gannwyll, sy’n symbol o obaith yn y tywyllwch, tra bod y weiren blethog yn efelychu’r wifren bigog a phwysigrwydd cysylltiadau. Mae’r cyfeiriad at lwyn yn llosgi yn pwysleisio golau, cariad ac undod ar draws crefyddau.
Meddai rhai o’r cyfranwyr:
“Ni ddylem anghofio unrhyw un”.
“Mae angen i ni ddod at ein gilydd a siarad i ddysgu oddi wrth ein gilydd”.
Mae’r prosiect hwn yn pwysleisio ein hymrwymiad i godi llais yn erbyn casineb, dysgu o hanes, a meithrin cysylltiadau cymunedol cryfach. Mae’r daliwr canhwyllau yn symbol o ddioddefaint a gobaith am ddyfodol gwell.
Ein Hymrwymiad i Weithredu yw parhau i archwilio celf fel gwaith rhyng-ffydd yn Sheffield ac adfer cymunedau ar chwâl.
I ddysgu mwy a chyfrannu
#80Cannwyll | 80candles.com
Baner 08
Anrhydeddu Henry Wuga wnaeth ddianc rhag erledigaeth y Natsïaid am fod yn Iddewig
Space4 a Mary Watson, Culture House a Sunderland City Libraries
Prosiect cymunedol wedi’i leoli yn Houghton yw Space4, sydd wedi ymrwymo i gefnogi unigolion i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau trwy wrando, cyfeirio at wasanaethau, cynnig cymorth cymdeithasol a chreu ymdeimlad o deulu. Cyflwynwyd gan Culture House Sunderland gyda chymorth The Culture Spring, dewisodd ein prosiect ganolbwyntio ar brofiad bywyd Henry Wuga fel yr ysbrydoliaeth ar gyfer ein daliwr canhwyllau.
Roedden ni eisiau canolbwyntio ar yr ochr gadarnhaol dynoliaeth, hyd yn oed dan yr amgylchiadau mwyaf erchyll, ac roedd cadernid Henry Wuga yn cyfleu’r ethos hwn. Bu aelodau’r gymuned o Space4 yn cydweithio â’r artist cerameg Mary Watson i ddylunio’r daliwr canhwyllau, sy’n adleisio llestri Delft yr Iseldiroedd ac yn defnyddio symbolau wedi’u darlunio â llaw i gynrychioli agweddau allweddol ar fywyd Henry.
Anrhydeddu aelodau o’r gymuned anabl, a gafodd eu herlid gan y Natsïaid oherwydd eu hanableddau
Sheffield Voices, Disability Sheffield
Mae Sheffield Voices, prosiect hunan-eiriolaeth o fewn Disability Sheffield, yn canolbwyntio ar sicrhau parch, gwerth a chydraddoldeb i bobl ag anableddau dysgu. Fel rhan o waith codi ymwybyddiaeth, aethom ati i greu darn gweledol yn cwmpasu cadair olwyn, er nad yw pob unigolyn anabl yn defnyddio cadeiriau olwyn. Mae llawer o anableddau yn rhai cudd, ac mae’n hynod drist bod rhai ag anableddau dysgu ymhlith dioddefwyr cyntaf y gyfundrefn Natsïaidd.
Dechreuodd y Natsïaid sterileiddio unigolion anabl mor gynnar â 1933; ac mae’r ffaith bod eu straeon bywyd mor brin yn adlewyrchu cyn lleied o werth roedd cymdeithas yn ei roi arnynt. Fe wnaethon ni ddefnyddio gwifren i gynrychioli’r cyfyngiad a’r rhwystr sy’n wynebu pobl anabl yn aml, sy’n symbol o’u caethiwed y tu ôl i ffensys. Mae’r cefndir gwyn yn cynrychioli’r ymdeimlad o ofn a bod wedi’u hynysu, tra bod y rhuban porffor ar y gadair olwyn yn arwydd o gofio’r Holocost.
Rhannodd Savannah, un o’n hunan-eiriolwyr, fyfyrdod pwerus:
“Weithiau pan fydd pobl yn cael eu geni, rydyn ni’n cael ein geni’n wahanol; Roedd Hitler yn lladd pobl anabl am nad oedd yn meddwl y dylem fyw. Ond mae gan bawb hawl i fyw. Pobl anabl oedd y cyntaf i’w llofruddio gan Hitler, a dyna pam fod cyn lleied o straeon am bobl anabl yn yr Holocost. Mae gennym hawl i wneud yr hyn rydyn ni ei eisiau. Mae ein bywydau yn werth eu byw”.
Roedd creu’r darn hwn yn brofiad goleuedig a gofidus. Dysgon ni fod pobl anabl ymhlith y cyntaf i gael eu targedu, hanes trasig nad oedd yn gwbl hysbys i ni tan nawr. Byddwn yn cofio’r unigolion anabl a gafodd eu dibrisio ac a gollodd eu bywydau yn ystod a chyn y rhyfel.
Ein Hymrwymiad i Weithredu yw cofio am fywydau’r rhai na chawsant eu gwerthfawrogi ac a lofruddiwyd cyn dangos eu gwir ysbryd a’u potensial i eraill.
Baner 09
Anrhydeddu Mudiad y Rhosyn Gwyn: Hans a Sophie Schloss, Christoph Probst, Alexander Schmorell, William Graff a’r Athro Kurt Huber wnaeth wrthsefyll y gyfundrefn Natsïaidd
St Edmund Arrowsmith Catholic High School a Heart Communities
Creodd disgyblion Blwyddyn 7 a’u hathro technoleg dylunio ddaliwr canhwyllau i anrhydeddu Mudiad y Rhosyn Gwyn. Wedi’u hysbrydoli gan eu gwrthwynebiad di-drais, mae’r dyluniad yn cynnwys acrylig porffor a gwyn gyda 80 o oleuadau bach LED yn cynrychioli’r bywydau a gollwyd yn y mudiad.
Gan gydweithio â Spinners Mill a HEART COMMUNITIES, fe wnaethom ymgorffori symbolau fel rhosod papur o bamffledi Almaeneg a hen deipiadur i gynrychioli taflenni’r grŵp. Mae’r rhosod gwyn a’r rhosyn carreg wedi’i baentio o’n gardd goffa werdd yn adlewyrchu eu neges heddwch.
Meddai Amy Vose, llefarydd Blwyddyn 7:
“Dysgais am Fudiad y Rhosyn Gwyn pan gafodd rhosod gwyn eu plannu yn fy mharc. Nawr, rydw i eisiau siarad yn erbyn casineb”.
Mae ein Hymrwymiad i Weithredu yn cynnwys wythnos o goffáu yn Spinners Mill, yn cynnwys arddangosfa dalwyr canhwyllau, perfformiadau, sgyrsiau ac anerchiad gan Sam Neuman, mab Eva Birnbaum wnaeth oroesi’r Holocost.
I ddysgu mwy a chyfrannu
#80Cannwyll | 80candles.com
Anrhydeddu Anne Super, a oroesodd erledigaeth y Natsïaid am fod yn Iddewig
Wellington School
Creodd ein grŵp Blwyddyn 13 y darn coffa hwn i anrhydeddu goroeswyr yr Holocost, wedi’u hysbrydoli gan brofiad bywyd Anne Super. Trwy brosiect ‘My Voice’ The Fed, fe wnaethom gwrdd ag Anne a dylunio ein daliwr canhwyllau i adlewyrchu enydau allweddol o’i bywyd. Ers 2019, mae Wellington School wedi cydweithio â My Voice er mwyn ennyn diddordeb y myfyrwyr yn nhystiolaeth goroeswyr lleol, gan ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r Holocost.
Mae ein daliwr canhwyllau, wedi’i wneud o glai wedi’i aer-sychu, dafnau o inc ac olion bysedd, yn cynnwys lluniau o Anne, delweddau prawf llygaid o’i gyrfa, mapiau o’i llwybrau dianc ac ysgythriadau aur yn symbol o’i chryfder. Mae’n cynrychioli ei chariad a’i chadernid, er gwaethaf erledigaeth.
Myfyrdodau gan ein grŵp:
“Roedd yn brofiad emosiynol a oedd yn adlewyrchu bywydau’r a gafodd eu heffeithio”.
“Mae dysgu am agweddau gwahanol ar fywydau’r rhai aeth drwy’r Holocost yn gwneud iddo deimlo’n llawer mwy real”.
Ein Hymrwymiad i Weithredu yw anrhydeddu gwaddol Anne, gan sicrhau bod Diwrnod Cofio’r Holocost a straeon y goroeswyr yn rhan integredig o’n cwricwlwm.